Cwestiynau Cyffredin

Sut olwg sydd gan y rhif adnabod unigryw ar hap a ddefnyddir i olrhain cysylltiadau?

Mae'r rhifau adnabod unigryw ar hap yn cynnwys llythrennau a rhifau. Mae'r rhain yn cael eu rhannu rhwng ffonau ac maen nhw'n newid bob 15 i 20 munud. Does dim modd eu defnyddio i adnabod defnyddwyr na'u ffonau.

Ydw i'n gallu dileu'r ap?

Byddwch bob amser yn gallu dileu'r ap, pryd bynnag y mynnoch. Mae rhywfaint o data yn aros, gan ddibynnu ar system weithredu eich ffôn, ond mae'r ap a'r data mae'n ei gynnwys, yn cael ei ddileu.

Pan fyddwch chi wedi dileu'r ap, ni fyddwch yn derbyn hysbysiadau na rhybuddion mwyach.

Ydw i'n gallu adnabod defnyddiwr ap sydd wedi profi'n bositif am y coronafeirws (COVID-19)?

Nac ydych. Nid yw'r ap yn eich galluogi chi i adnabod unrhyw ddefnyddwyr ap sy'n profi'n bositif am y coronafeirws. Defnyddir rhifau adnabod unigryw ar hap i sicrhau y caiff hunaniaeth a phreifatrwydd unrhyw un sy'n defnyddio'r ap eu diogelu.

Fodd bynnag, cynghorir defnyddwyr i gadw eu ffonau'n ddiogel gan y bydd hysbysiadau ar yr ap yn weladwy i bobl â mynediad at eich ffôn.

A fydd yr ap yn disbyddu fy matri?

Mae'r ap yn defnyddio "Ynni Isel Bluetooth" a fydd yn cael effaith fach iawn ar fatri eich ffôn, yn enwedig os yw Bluetooth wedi'i alluogi ar eich ffôn fel arfer.

Pam mae angen ardal fy nghôd post ar yr ap?

Pan fyddwch yn lawrlwytho'r ap, gofynnir i chi nodi ardal côd post. Golyga hyn fod rhan gyntaf eich côd post yn cael ei rhannu gyda'r GIG.

Yn gyffredinol, mae ardal côd post yn cynnwys tua 8,000 o gyfeiriadau, gan olygu nad oes modd nodi eich lleoliad penodol.

Bydd yr ap yn defnyddio'r ardal côd post i ddweud wrthych chi os yw'r ardal yn un lle mae'r risg yn uchel.

Bydd y GIG yn defnyddio'r ardal côd post i:

  • rhagweld a rheoli gwasanaethau ysbytai lleol
  • gwella'r ap a sicrhau ei fod yn gweithio
A fydd yr ap yn gweithio os yw fy ffôn wedi'i gloi?

Bydd yr ap yn gweithio tra bydd eich ffôn wedi'i gloi, cyhyd â bod y ffôn ymlaen a bod Bluetooth wedi'i alluogi. Eithriad i hyn yw wrth i chi droi eich ffôn ymlaen, mae'n rhaid i chi datgloi'r ffôn yn gyntaf er mwyn sbarduno'r ap i ddechrau gweithio. Mae angen gwneud hyn wrth droi'r ffôn ymlaen eto a does dim angen i chi agor yr ap.

Pam bod angen i mi droi'r hysbysiadau ymlaen?

Caiff hysbysiadau eu defnyddio er mwyn i nodweddion penodol ar yr ap weithio, er enghraifft olrhain cysylltiadau. Os ydych chi wedi treulio amser yn agos at ddefnyddiwr arall yr ap sy'n profi'n bositif am y coronafeirws yn hwyrach, bydd eich ffôn yn defnyddio hysbysiadau i anfon rhybudd atoch Trowch yr hysbysiadau ymlaen pan ofynnir i chi wneud hynny.

A oes angen Bluetooth arnoch chi i'r ap weithio?

Oes. Mae'r ap yn defnyddio "Ynni Isel Bluetooth" i weithio. Pan fyddwch yn lawrlwytho'r ap, bydd angen i chi alluogi'r gwasanaeth "Hysbysiadau Amlygiad" gan Apple a Google.

Y rheswm am hyn yw bod Bluetooth yn galluogi eich ap i gofnodi rhifau adnabod unigryw ar hap defnyddwyr eraill yr ap sydd wedi treulio amser yn agos atoch chi. Gelwir hyn yn "Cofnodi Amlygiad" ac mae'r dechnoleg hon yn galluogi i olrhain cysylltiadau weithio cyhyd â bod Bluetooth eich ffôn yn aros ymlaen.

Pryd a pham mae angen i mi gofrestru mewn lleoliad?

Os ydych chi'n mynd i leoliad (er enghraifft, siop, bwyty neu salon) sydd â phoster cod QR GIG swyddgol wrth y fynedfa, dylsech sganio'r cod QR gan ddefnyddio'r camera drwy eich ap.

Cewch neges yn gofyn am eich caniatâd cyn iddo gael ei ddefnyddio.

Yna, byddwch yn derbyn rhybudd os ydych chi wedi ymweld â lleoliad yn ddiweddar lle gallech chi fod wedi dod i gysylltiad â rhywun â'r coronafeirws (COVID-19).

Pam bod angen i mi ddiweddaru system weithredu fy ffôn?

Er mwyn i ap COVID-19 y GIG weithio bydd angen mewnosod fersiwn diweddaraf system weithredu eich ffôn.

Ar gyfer ffonau Apple, bydd angen fersiynau 13.5 neu uwch. Bydd angen Marshmallow neu fersiwn 6.0 neu uwch ar ffonau Android.

Am ganllawiau ar ffonau eraill a chyfarwyddiadau ar sut i uwchraddio eich system weithredu, ewch i'r adran "Cwestiynau Cyffredin" ar y wefan yn: www.covid19.nhs.uk.

Ewch i weld mwy o gwestiynau cyffredin yn Saesneg yn faq.covid19.nhs.uk