Yr hyn mae'r ap yn ei wneud

Olrhain

Er mwyn olrhain cysylltiadau, mae'r ap yn canfod ac yn cofnodi defnyddwyr eraill yr ap sydd gerllaw drwy ddefnyddio rhifau adnabod unigryw ac ar hap. Os bydd unrhyw un o'r defnyddwyr hynny yn profi'n bositif am y coronafeirws (COVID-19) yn ddiweddarach, byddwch yn derbyn hysbysiad o amlygiad ynghyd â chyngor ar beth i'w wneud.

Os ydych o dan 18, fe'ch cynghorwn i ddangos y rhybudd yma i oedolyn rydych yn ymddiried ynddyn nhw.

Rhybudd

Pan fyddwch yn Mewngofnodi ar gyfer yr ap am y tro cyntaf, gofynnir i chi am hanner cyntaf eich côd post. Gallwch wirio'r ap bob dydd i weld a yw'r ardal lle rydych chi'n byw wedi dod yn ardal risg uchel ar gyfer y coronafeirws. Os yw hi, byddwch yn derbyn hysbysiad i roi gwybod i chi. Bydd hyn yn eich helpu i wneud penderfyniadau bob dydd i'ch diogelu chi a'r bobl rydych chi'n eu caru.

Mewngofnodi

Mae'r ap yn eich galluogi i gofnodi pan fyddwch chi'n ymweld â lleoliad drwy “gofrestru” wrth gyrraedd, gan ddefnyddio côd QR y lleoliad. Mae'r ap yn cofnodi'r amser rydych chi'n ei dreulio yn y lleoliad heb gofnodi unrhyw wybodaeth bersonol. Byddwch yn derbyn rhybudd os ydych chi wedi ymweld â lleoliad yn ddiweddar lle gallech chi fod wedi dod i gysylltiad â'r coronafeirws

Symptomau

Os ydych chi'n teimlo'n anhwylus, gallwch ddefnyddio'r ap i wirio a allai eich symptomau fod yn gysylltiedig â'r coronafeirws (COVID-19). Bydd yr ap yn rhoi rhestr i chi o symptomau posib a gallwch ddewis y rhai sy'n berthnasol i chi. Bydd yn dweud wrthych chi os yw eich symptomau'n awgrymu y gallai'r coronafeirws fod arnoch chi.

Profi

Os oes gennych chi symptomau'r coronafeirws, bydd yr ap yn mynd â chi i wefan lle gallwch archebu prawf i weld a oes gennych chi'r coronafeirws ai peidio.

Ynysu

Os ydych chi wedi derbyn cyngor gan yr ap i hunanynysu, mae'r ap yn cynnig amserydd ôl-gyfrif er mwyn bod cofnod gennych chi am ba mor hir y bydd angen i chi hunanynysu. Pan fyddwch chi'n dod i ddiwedd eich cyfnod o hunanynysu, bydd yr ap yn anfon hysbysiad atgoffa gyda dolen i'r cyngor diweddaraf ar eich cyfer.

Os ydych o dan 18, fe'ch cynghorwn i ddangos y rhybudd yma i oedolyn rydych yn ymddiried ynddyn nhw.