Hygyrchedd
Datganiad hygyrchedd ar gyfer ap Profi ac Olrhain y GIG
Datganiad hygyrchedd ar gyfer ap Profi ac Olrhain y GIG
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn esbonio pa mor hygyrch yw cymhwysiad (ap) Profi ac Olrhain y GIG, beth i'w wneud os ydych chi'n cael anhawster wrth ei ddefnyddio a sut i riportio problemau hygyrchedd sy'n gysylltiedig â’r ap.
Defnyddio'r ap hwn
Mae ap Profi ac Olrhain y GIG yn cael ei redeg gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC). Rydym ni’n dymuno i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r ap.
Mae ap Profi ac Olrhain y GIG yn ap brodorol a adeiladwyd ar gyfer dyfeisiau Apple iOS ac Android. Mae hyn yn golygu y gallwch chi ddefnyddio'r gosodiadau hygyrchedd wedi’u hadeiladu ar eich ffôn:
- gosodiadau hygyrchedd Apple iOS
- gosodiadau hygyrchedd Android
Rydym ni wedi gwneud y testun yn Ap Profi ac Olrhain y GIG mor syml â phosib i'w ddeall. Os oes gennych chi anabledd, Mae gan AbilityNet gyngor i'ch helpu chi i wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio.
Lefel hygyrchedd ap Profi ac Olrhain y GIG
Mae ap Profi ac Olrhain y GIG yn cydymffurfio â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 A, ac rydym ni wrthi'n ceisio cydymffurfio â’r safon AA ar gyfer lansiad cenedlaethol.
Beth i'w wneud os ydych chi'n cael anhawster wrth ddefnyddio Ap Profi ac Olrhain y GIG
Os oes angen gwybodaeth arnoch ynghylch Ap Profi ac Olrhain y GIG mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu Braille:
E-bostiwch: nhscovid-19accessibilityissue@nhsbsa.nhs.uk
Byddwn ni’n cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn.
Adrodd am broblemau hygyrchedd yn ap Profi ac Olrhain y GIG
Rydym ni bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd yr ap hwn. Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu'n credu nad ydym ni'n bodloni gofynion hygyrchedd, yna e-bostiwch nhscovid-19accessibilityissue@nhsbsa.nhs.uk i roi gwybod am y broblem.
Beth i'w wneud os nad ydych yn fodlon ar sut rydym ni’n ymateb i'ch cwyn
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).
Os nad ydych chi’n fodlon ar sut rydym ni’n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS), neu Gomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon (ECNI) os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon.
Gwybodaeth dechnegol ynghylch hygyrchedd ap Profi ac Olrhain y GIG
Mae DHSC wedi ymrwymo i sicrhau bod ap Profi ac Olrhain y GIG yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae ap Profi ac Olrhain y GIG ar gyfer dyfeisiau Apple iOS and Android yn cydymffurfio â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 A, oherwydd yr enghreifftiau diffyg cydymffurfio a restrir isod, nid yw'n diwallu lefel AA y safon eto.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Rydym ni’n gwybod fod rhai materion nad ydynt yn gwbl hygyrch ar hyn o bryd, mae'r rhain fel a ganlyn:
- Ar Sgrin Hafan yr Ap mae animeiddiad na ellir ei oedi na'i stopio ac mae'n fflachio fwy na theirgwaith mewn eiliad. Gellir lliniaru'r materion hyn trwy ddefnyddio'r gosodiad lleihau cynnig o fewn y ddyfais a fydd yn lleihau effaith hyn.
- Weithiau wrth chwyddo mae elfennau'r sgrin yn mynd yn hynod o dynn oherwydd gofod ar y sgrin.
- Weithiau gall testun, wrth i’w faint gael ei newid, hefyd wneud i ofod y sgrin ymddangos fel ei fod wedi'i wasgu ynghyd
Fel y dywedwyd, ein huchelgais yw diwallu’r safon AA ar gyfer lansiad cenedlaethol. Er mwyn diwallu hon, rydym ni ar hyn o bryd yn ceisio atebion i'r canlynol:
1.3.4 Gogwydd
Ar ddyfeisiau Apple iOS ac Android, dim ond yn y modd portread y mae'r ap ar gael ar hyn o bryd; nid yw'r modd tirwedd ar gael ar hyn o bryd ac mae'n un maes a fydd yn heriol i'w ddatrys wrth i ni agosáu at lansiad cenedlaethol. Fodd bynnag, rydym ni’n parhau i ymchwilio i atebion posibl.
1.4.4 Newid maint y testun
Ar Apple iOS pan yw maint testun yn cael ei newid i'r eithaf mae'n achosi i rywfaint o'r dudalen droshaenu.
2.4.6 Penawdau a Labeli
Wrth ddefnyddio troslais neu ddarllenwyr sgrin ar Apple iOS, nodwyd ystod o faterion yn erbyn y safon hon: mae penawdau yn glanio gyda ffocws anghywir ar frig y dudalen wrth i'r dudalen lwytho, mae'r botwm “Nodwch eich Cod Unigryw” wedi'i labelu'n anghywir fel “Cod Unigryw ”ac mae “ Nodwch eich cod post ”wedi'i labelu'n anghywir fel “Cod Post” ac yn olaf mae'r enghraifft o god unigryw yn cael ei darllen fel pennawd yn anghywir.
Wrth ddefnyddio troslais neu ddarllenwyr sgrin ar ddyfeisiau Android y materion a nodwyd yn erbyn y safon hon yw: ar y dudalen hunanynysu mae'r botwm i fynd yn ôl yn nodi'n anghywir fel pennawd ac mae logo profi ac olrhain y GIG ar bob tudalen yn darllen yn anghywir fel heb ei labelu.
3.2.3 Llywio Cyson
Wrth ddefnyddio troslais neu ddarllenwyr sgrin ar Apple iOS mae'r ddolen “Rheoli fy nata” yn hysbysu ei fod yn agor mewn porwr ond mae hyn yn anghywir gan ei fod yn agor o fewn yr ap. Fodd bynnag, mewn mannau eraill gwelir y swyddogaeth hon fel botwm. Yn yr un modd, mae “Rhagor o wybodaeth am fewngofnodi i leoliad” yn ymddangos ar waelod y sgrin a darperir botwm ar y brig i gau, mae hyn yn anghyson â mannau eraill yn yr ap.
3.2.4 Nodi Cyson
Wrth ddefnyddio troslais neu ddarllenwyr sgrin ar Apple iOS mae materion a nodwyd yn erbyn y safon hon yn cynnwys penawdau anghyson ar draws nifer o dudalennau. Ar y dudalen “Rheoli fy nata,” mae gan “adrodd am symptomau” bennawd anghyson o “ddewis symptomau” ac mae gan “Rheoli fy nata” bennawd anghyson o “fy nata”. Ar y dudalen “mewngofnodi i leoliad”, mae gan “ragor o wybodaeth am fewngofnodi i leoliad” bennawd anghyson o “fewngofnodi i leoliad”. Yn olaf, ar y tudalennau symptomau, dylai'r pennawd fod yr un peth ar draws tudalennau ag “Eich Symptomau”.
Sut wnaethom ni brofi Gwefan ap Profi ac Olrhain y GIG
Rydym yn ceisio’n barhaus i wella dyluniad a defnyddioldeb yr ap. Mae hyn yn cael ei lywio gan ymchwil a phrofi ymhlith defnyddwyr i'n cefnogi i fynd y tu hwnt i gydymffurfiad technegol wrth ddiwallu anghenion defnyddwyr.
Rydym wedi ymrwymo i archwiliadau rheolaidd o'r ap gan aseswyr arbenigol annibynnol.
Profwyd ap Profi ac Olrhain y GIG ar gyfer Apple iOS ddiwethaf ar 9fed Awst 2020 a gwiriwyd ei fod yn cydymffurfio â Safon WCAG 2.1. Profwyd ap Profi ac Olrhain y GIG yn llawn gan Phil Sherry ar 8fed Awst 2020.
Paratowyd y datganiad hwn ar 31 Gorffennaf 2020. Fe'i diweddarwyd ddiwethaf ar 10fed Awst 2020.
Datganiad hygyrchedd ar gyfer Gwefan Cynhyrchydd QR ap Profi ac Olrhain y GIG
Datganiad hygyrchedd ar gyfer Gwefan Cynhyrchydd QR ap Profi ac Olrhain y GIG
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn esbonio pa mor hygyrch yw Gwefan Cynhyrchydd QR cymhwysiad (ap) Profi ac Olrhain y GIG, beth i'w wneud os ydych chi'n cael anhawster wrth ei ddefnyddio a sut i riportio problemau hygyrchedd sy'n gysylltiedig â’r wefan Cynhyrchydd QR.
Defnyddio'r ap hwn
Mae'r Wefan Cynhyrchydd QR yn cael ei rhedeg gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC). Rydym ni’n dymuno i gynifer o leoliadau a busnesau â phosibl allu defnyddio'r wefan ac felly rydym ni wedi gwneud y testun ar Wefan Cynhyrchu QR mor syml â phosib i'w ddeall.
Os oes gennych chi anabledd, Mae gan AbilityNet gyngor i'ch helpu chi i wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio.
Lefel hygyrchedd Gwefan Cynhyrchydd QR ap Profi ac Olrhain y GIG
Mae’r wefan Cynhyrchydd QR yn cydymffurfio â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 A, ac rydym ni wrthi'n ceisio cydymffurfio â’r safon AA ar gyfer lansiad cenedlaethol.
Beth i'w wneud os ydych chi'n cael anhawster wrth ddefnyddio Gwefan Cynhyrchydd QR Ap Profi ac Olrhain y GIG
Os oes angen gwybodaeth arnoch ynghylch y wefan Cynhyrchydd QR mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu Braille:
E-bostiwch: nhscovid-19accessibilityissue@nhsbsa.nhs.uk
Byddwn ni’n cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn.
Adrodd am broblemau hygyrchedd ar Wefan Cynhyrchydd QR ap Profi ac Olrhain y GIG
Rydym ni bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd yr ap a’r Wefan Cynhyrchydd QR. Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu'n credu nad ydym ni'n bodloni gofynion hygyrchedd, yna e-bostiwch nhscovid-19accessibilityissue@nhsbsa.nhs.uk i roi gwybod am y broblem.
Beth i'w wneud os nad ydych yn fodlon ar sut rydym ni’n ymateb i'ch cwyn
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).
Os nad ydych chi’n fodlon ar sut rydym ni’n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS), neu Gomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon (ECNI) os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon.
Gwybodaeth dechnegol ynghylch hygyrchedd Gwefan Cynhyrchydd QR ap Profi ac Olrhain y GIG
Mae DHSC wedi ymrwymo i sicrhau bod gwefan Cynhyrchu QR yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan Cynhyrchydd QR yn cydymffurfio â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 A.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Er mwyn symud o safon A (y sefyllfa bresennol) i’r safon AA ar gyfer lansiad cenedlaethol, rydym ni ar hyn o bryd yn ceisio atebion i'r dilynol:
2.4.6 Penawdau a Labeli:
Wrth ddefnyddioTroslais, ar hyn o bryd mae gan dudalennau Cynhyrchydd QR benawdau cudd sy'n cael eu darllen fel “Eitemau” yn anghywir a dylid eu labelu fel “dolenni cymorth”
HSut wnaethom ni brofi Gwefan Cynhyrchydd QR ap Profi ac Olrhain y GIG
Rydym yn ceisio’n barhaus i wella dyluniad a defnyddioldeb y Wefan Cynhyrchydd QR. Mae hyn yn cael ei lywio gan ymchwil a phrofi ymhlith defnyddwyr i'n cefnogi i fynd y tu hwnt i gydymffurfiad technegol wrth ddiwallu anghenion defnyddwyr.
Rydym wedi ymrwymo i archwiliadau rheolaidd o'r ap gan aseswyr arbenigol annibynnol.
Profwyd y wefan Cynhyrchydd QR ddiwethaf ar 11 Awst 2020 a gwiriwyd ei bod yn cydymffurfio â Safon WCAG 2.1. Profwyd y wefan Cynhyrchydd QR yn llawn gan Phil Sherry ar 11eg Awst 2020.
Paratowyd y datganiad hwn ar 31 Gorffennaf 2020. Fe'i diweddarwyd ddiwethaf ar 12 Awst 2020.